PENOD VI.
Hwyrddydd gydag Arwystl.
Y Parch. H. W. Hughes (Arwystl), Dinas, gerllaw Pontypridd, Morganwg, sydd hen weinidog enwog i'r Bedyddwyr, ond sydd wedi rhoi gofal gweinidogaethol yr eglwys i fyny er's rhai blynyddau. Yr oeddwn yn gydnabyddus ag ef er cynt, ac yn edmygwr mawr o hono. Ac yn awr, pan yn agos ato yn Nghwm Rhondda, teimlwn yn awyddus i alw gydag ef. Ar yr adeg hon cyfarfyddais a'r Parch. Hugh Jones, gweinidog presenol yr eglwys, ac amlygais iddo fy mwriad i alw heibio; yntau a'm taer gymhellodd i wneyd hyny.
Yn hwyr y dydd y gelwais; dygwyddodd fod cyfarfod poblogaidd yn cael ei gynal yn eu capel, i gyflwyno tysteb i frawd o ddiacon parchus oedd ar ymadael i le arall i fyw. Ofnwn, pan ddeallais am y cwrdd, y gallasai fod yn anffafriol i amcan fy ymweliad, ond yn ffortunus dygwyddodd droi yn ffafriol.
Nis gallaf ganiatau i'r darllenydd wybod manylion yr ymweliad, nes i mi yn gyntaf ei ddwyn i gydnabyddiaeth, i ryw raddau, â fy nghyfaill Mr. Hughes (Arwystl). Yr wyf bron yn sicr fod pawb sydd yn gwir adnabod Mr. Hughes, yn ei fawr hoffi; a gwn fod llawer o'r rhai ydynt yn ei adnabod felly, yn mawr edmygu ei deithi meddyliol, ei arabedd, ei chwaeth, a'i allu fel cyfansoddwr. Ond at y nodweddau a grybwyllwyd a fawrygaf, gyda llawer, yn nghymeriad Mr. Hughes fel dyn cyhoeddus, ychwanegaf un nodwedd arall, sef ei ddull