Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o draddodi. Ystyriaf fod y dull hwn yn dwyn cysylltiad agos a'i ystum, ei ardrem, ei wefusyddiaeth, ei oslef, ei aceniaeth, a'i bwysleisiaeth. Saif Arwystl ar ben ei hun fel traddodwr. Pan y daw i'r pwlpud, bydd ei ymddangosiad yn tynu sylw, bydd ei wynebpryd yn dweyd, bydd symudiadau ei wefusau yn datgan, bydd ei fyr besychiad yn awgrymiadol. Pan y saif i fyny i lefaru, buan y bydd yr elfenau a nodwyd yn cyd-ddweyd. Mae ei ddull o draddodi yn ffurfio delweddau ei ddrychfeddyliau; ac mae ei ddrychfeddyliau yn ffurfio delweddau ei ddull o draddodi. Ond ofer y ceisiwn ei ddarlunio rhaid ei wrando er gallu ffurfio syniad cywir am ei ragoriaethau fel llefarwr cyhoeddus.

Ychydig, efallai, yn y Dywysogaeth sydd gyfartal iddo fel meistr y gynulleidfa, pan y byddo yr awel o'i du; ond pan y byddo y gwynt yn groes, y mae fe ddichon, yn nghyfrif rhai, yn waelach na llawer llai nag ef. Wrth iddo hwylio yn erbyn gwynt croes, bydd y dylanwad gwefreiddiol a dreiddia ysbrydoedd dynion, yn absenol. Y pryd hwnw, ymdrecha yn galed â'r tonau; metha ddilyn siarter ei areithyddiaeth; metha gael gafael yn amserol ar y rhaff angenrheidiol; bydd yr ymadroddion yn ddarniog, ac yn gwrthod ufuddhau i'r parabl; bydd y gwefusau yn anesmwyth rhwng geirau. Weithiau gwyra yn sydyn oddiwrth ei bwnc i afael mewn teganau, yna daw mân-besychiadau; brys symuda y gwefusau a'r tafod, fel i finio eu hunain o'r newydd. Ambell dro, bydd y drychfeddyliau fel yn chwareu ag ef, ac yn ymguddio rhagddo.

Braidd na fyddai yn fwy dewisol genyf wrando arno. pan yn y "ditch," na phan yn hoewi ar ei uchelfanau,