do, methodd ei thalu yn ol. Ond buddugoliaeth Calfari, enillodd fwy yn ol i mi, mi ganaf tra bwy byw. Gwnaf, mi ganaf. Teyrnas!-teyrnas!!"
Bellach, awn rhagom at hanes fy ymweliad a'r pregethwr neillduol ac enwog hwn.
Daeth cynulleidfa fawr a pharchus yn nghyd i gwrdd cyflwyniad y dysteb i'r brawd o ddiacon oedd ar ymadael a'r lle. Yr oedd yn gwrdd poblogaidd, pob cornel ac eisteddle yn llawn. Program hir o adroddiadau, areithiau a chanu i fyned trwyddo. Eisteddai Mr. Hughes yn y sedd bellaf, wrth y pared, ar y chwith o'r pwlpud. Minau a eisteddwn mewn sedd gyfleus yn ffrynt y pwlpud. Cawswn fy hun mewn man manteisiol i lawn fwynhau y gweithrediadau, ac hefyd i fod yn ngolwg Mr. Hughes, oedd draw ar y dde i mi. Yr oedd un peth, fodd bynag, yn peri gradd o flinder i mi, sef nad oeddwn eto wedi cael cyfleustra i ysgwyd llaw ag ef; ac er ei fod mor agos ataf, nid oedd yn gyfleus i fyned ato. Yr oedd y cyflawniadau ar y cyfan yn gymeradwy, ac yn ymddangos eu bod yn rhoi boddlonrwydd cyffredinol, er yn ddiau nad oedd pob rhan yn peri yr un dyddordeb i bawb. Fel yn gyffredin, yr oedd pob un yn mwynhau oreu yr hyn oedd yn ateb oreu i'w chwaeth. Rhai a fwynhaent y canu, eraill yr areithio, eraill yr adroddiadau, ac nid oes amheuaeth nad cyflwyniad y dysteb oedd yn peri y mwynhad mwyaf i'r diacon a'i deulu. Ond yr hyn a barai y dyddordeb mwyaf o lawer i mi oedd gweled gwyneb Mr. Hughes. Tybiwn fod mwy o hyawdledd, ystyr, delweddiad, a dillynder yn ei wynebpryd ef ar y pryd, nag yn holl ranau y gweithrediadau. Nid oedd un ran o'r cyflawn-