iadau heb ei sylw, ac yn effeithio yn amrywiol ar ei feddwl a'i wyneb. Tybiaswn fy mod yn darllen ei feddwl yn nelweddion ei wyneb.
Yn garedig iawn, trefnasai Mr. Jones, y gweinidog, fod Arwystl a minau i gyfarfod a'n gilydd yn ei dy ef, ar ol y cwrdd, ac felly y bu. Er cymaint oedd y mwynhad a gawswn yn y cwrdd, addawswn i mi fy hun nad oedd hyny ond blaenffrwyth bychan o'r hyn oedd i ddilyn.
Wedi cyfarfod yno, yr oedd yn rhaid ail fyned dros yr ysgwyd dwylaw a'r cyfarchiadau a gawsid ar y diwedd, yn y capel. Llawer o bethau newydd a hen ddeuent i'r bwrdd, gan mwyaf hen bethau. Melus yr adroddai Arwystl am helyntion Cymanfaoedd a chyrddau mawrion y blynyddau gynt, ac am gymeriadau diniwaid a hen ffasiwn. Wrth wrando arno yn adrodd y pethau yna, a'u cyffelyb, yr oeddwn yn barod i ofyn, paham yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn, er fod Solomon yn dysgu “mai nid o ddoethineb yr wyt yn gofyn hyn."
Y cyfnod pan arferai Arwystl fyned oddiamgylch i ddarlithio, oddeutu deng mlynedd ar hugain yn ol, oedd cyfnod euraidd ei fywyd. Testynau ysgrythyrol oedd i'w ddarlithiau, ac nid gwael destynau di-bwys, i faldorddi ffolineb, a chreu crechwen, fel yn rhy aml gyda llawer. Ei destynau ef fyddent deithiau yr Apostol Paul, a helyntion yr Israeliaid ar eu hymdaith o'r Aipht tua Chanaan. Byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, yn trafod y materion hyny. Yr oedd y dygwyddiadau neillduol yn galw allan ei ymadferthion goreu, a mawr oedd ei boblogrwydd. Difyrus iawn, yn bresenol, oedd