Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ganddo rai adroddiadau o helyntion y cyfnod darlithyddol.

Yr oedd fod y ddau weinidog, Mr. Hughes a Mr. Jones, yn gyfeillion mor fynwesol, yn fantais fawr i fwyniant yr ymweliad. Yr oedd anianawd cyfeillgarwch yn allwedd i'r brawd Jones i ddatod cloion switches, er troi cerbyd yr ymddyddan i'r llinellau hyny a ddymunai, neu mewn geiriau eraill, yr oedd yn gwybod pa fodd i dynu allan Mr. Hughes, ac i gael oddiwrtho sylwadau pert, adgofion difyr, hoenusrwydd diniwed, ac arabedd bywiog.

Yn mhlith pethau eraill, dywedai Mr. Hughes ei fod unwaith i ddarlithio yn Merthyr, ac iddo, yn ol ei addewid, ddod at ei gyhoeddiad yn brydlawn gyda trên y prydnawn. Yn yr orsaf yno, dysgwylid ef yn bryderus gan ddau frawd penodedig, ond dygwyddodd yn nghanol y lluaws pobloedd, i'r ddau frawd fethu taro ar y darlithiwr. Aeth y ddau genad ymaith yn siomedig iawn, ac yn methu dyfalu paham nad oedd y boneddwr dysgwyliedig wedi dod. Aeth Mr. Hughes (y gwr dysgwyliedig), i dy teulu adnabyddus perthynol i'r eglwys, a alwasai am y ddarlith. A chyn hir, aeth i'r capel i ragbaratoi ar gyfer y ddarlith. Y brodyr siomedig yn cymeryd yn ganiataol na ddaethai y darlithydd, a benderfynasant nad oedd dim gwell i'w wneyd o dan yr amgylchiadau na myned yn brydlon at y capel, er hysbysu y bobloedd a ddeuent yno, o'r ffaith ofidus. A phan ddaeth yr awr, aethant at y capel, ac er eu syndod, a'u boddhad, pwy a welent yn y capel ond Mr. Hughes wedi gosod mapiau i fyny ar y parwydydd, a threfnu pethau angenrheidiol eraill, ac yn barod am y ddarlith.