Nis gallaf fynegi bob yn rhan, yr ymddyddanion dyddan a gafwyd. Braidd nad oedd clock yr ystafell wedi anghofio taro gan gymaint y dyddordeb. Hyn wyf yn sicr, nad oedd yn taro prin un ran o ddeg yr hyn wnai pan ddechreuodd yr ymddyddan. Ac yr oedd y bobl tu allan fel yn talu gwarogaeth i bwysigrwydd yr ymweliad hwn, a'r ymddyddanion, oblegid nid hir y buont heb ddwyn eu hunain i ddystawrwydd, fel nad oedd y twrw lleiaf yn yr holl amgylchoedd.
PENOD VII.
Yn Nghwm Rhondda.
A oes gan natur gelfi aredig? Gellir tybied fod ganddi. Mae ffurf gul hirfain cymoedd Cymru fel yn arwyddo hyny. Ymddengys y cymoedd yn dra thebyg i rychau a dorasid gan ryw aradr anferthol. Fel rheol, nid yw y cwysau yn union a threfnus; yn hytrach y maent fel rhychau bras a wneir mewn tir a fo newydd a garw. Cymharol fychain yw rhychau cymoedd Cymru. Gwyddai perchen yr aradr nad oedd yno le i gwysau llydain dyffrynoedd cyfandirol. Am hyny, amlygir cynildeb a darbodaeth yn ffurfiad arwynebedd y tir. Mae pob craig, mynydd a bryn, dyffryn a dôl, wedi eu lleoli yn gryno anghyffredin. Y mae Cwm Rhondda yn ei ffurf hir-gul, yn edrych fel rhych aradr. Gwnaeth natur ddefnydd da o'i haradr wrth agor cwys y Cwm cyfoethog hwn. Er mai cul ydyw, mae terfynau eang i fasnach y glo a gludir o hono, ac y mae nifer