Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saith o bersonau yn or-brysur yn ystafell fach y ffrynt; y gweddill yr un mor brysur yn ystafell fach ffrynt y ty arall. Dywedai Mr. Davies wrthyf fod prinder lle yn peri anghyfleustra dirfawr iddo, ac eglurai mai cynydd annysgwyliadwy busnes oedd yr achos na fuasai ganddo adeilad mwy eang a chyfleus fel swyddfa. Diau fod llawer swyddfa argraffu eangach a mwy cyfleus yn Nghymru, ond meiddiaf ddweyd nad oes yr un swyddfa yn yr holl Dywysogaeth yn cael ei rhedeg gan berson mwy crefyddol, uniawn a thirion, na Mr. Davies.

Yn ngorsaf cledrffordd y Taff Vale, Pont-y-pridd, ar brydnawn Sadwrn, yr oedd y tyrfaoedd pobloedd yn awgrymu i fy meddwl fod poblogaeth y rhan hono o'r wlad yn fawr iawn, a'r fasnach yn anferthol.

Cyn gadael Pont-y-pridd, dymunwyf grybwyll i mi gymeryd y pleser o alw, tra yno, gyda mab i'r gweinidog enwog, y diweddar Barch. James Richards. Cwynai iddo amser yn ol fod yn anffortunus, trwy fyned o dan gyfrifoldeb arianol, dros eraill, ac iddo ef a'i briod golli bron bob ceiniog a feddent. Modd bynag, dywedai iddo hefyd, wedi hyny, fod yn ffortunus, trwy ddarganfod ffordd ratach nag eraill i wneuthur canwyllau (yr hon alwedigaeth a ddilyna,) ac oblegid hyny i gael mantais ar eraill yn y farchnad, trwy allu gwerthu yn rhatach. Ymddangosai y ddau yn bresenol yn bur siriol a chalonog er yr holl golledion a gawsant wrth ffafrio eraill.

Mae yr eglwysi yn Nghwm Rhondda, o Bont-y-pridd i Blaen-y-cwm, yn lluosog a llwyddianus. Pan wnaed cyfrif yn ddiweddar o rif y gwahanol enwadau yn y Cwm, yr oedd cynulleidfaoedd y Bedyddwyr yn rhifo