odd llawer mewn perygl y ty hwn felly. Pwy ddywed faint y clod sydd ddyledus i hoff weinidog fel Mr. Morris? Pa ryfedd fod y Beibl yn traethu ar y swydd o weinidog yn bwysig? Pan mae y swydd yn cael ei hymarfer yn briodol, oni aroglir ei pherarogledd? Rhyfedd fel y mae pethau yn casglu o gylch y dyn yn gydnaws a'r dyn. Hyn sydd ogoneddus, fod nodweddau personol gweinidog yn ddigon cryfion i godi dynion ato. Pan y mae y lluaws cymysgryw yn rheffynu eu dysgawdwr i lawr atynt hwy, y mae pethau yn alarus. Er i was Duw gadw safle uchel crefydd Iesu, rhaid ei fod yn wreiddiedig ynddi. Mae syniadau fel yna yn cael eu hawgrymu i'r meddwl wrth adfyfyrio nodweddau y gweinidog rhagorol, y Parch. W. Morris.
Y mae y Parch. Wm. F. Davies, Nanticoke, wedi dod o eglwys y Noddfa. Ac erbyn ystyried, y mae llawer o ddelw y tad ar y mab. Mae delw gweithgarwch gweinidog y Noddfa ar weinidog Nanticoke.
Hoffais weinidog Treorci yn Nghaerdydd, chwe mlynedd yn ol, pan y darllenai fynegiad un o'r cymdeithasau o dan nawdd yr Undeb. Parai ei ddull gofalus, ystyriol, i mi dybied fy mod yn clywed llais dyn Duw yn ei lais ef.
Pan oeddwn yn Treorci, yr oedd y Bedyddiwr Cymreig, yr hwn a gyhoeddid yno, ar drengu. Yr oedd yn gwaelu er's misoedd yn flaenorol. Bu y cynhwrf etholiadol y pryd hwnw, efallai, yn beth cynorthwy i estyn ei oes.
Ond yr oedd elfenau darfodedigaeth yn ei gyfansoddiad, ac yr oedd yn rhaid iddo gael marw. Credid yn nidwylledd amcan y brodyr da oeddynt yn ei gyhoeddi, ond profodd yr anturiaeth ddiffyg doethineb.