Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Weithiau mae amlhau papyrau yn milwrio yn erbyn undeb, ac yn peri anfantais i gael un papyr o wir werth; felly y tro hwn. Eisiau gwella y Seren sydd. Gadael i'r newydd ymddadblygu o'r hen. Er pob diffygion, mae y Seren yn meddu rhagoriaethau-rhagoriaethau allant gynyddu; meddant flagur tyfiant.

Bum yn y Noddfa yn treulio Sabboth, a noson o'r wythnos. Hwn oedd y capel mwyaf y buaswn ynddo hyd yn hyn. Yr oedd y gynulleidfa yn fawr ar y Sabboth, ond nid cymaint, meddid, ag arferol. Yr oedd merch ieuanc yn pregethu y Sabboth hwnw yn nghapel yr Annibynwyr yn y lle, ac yr oedd yn llawer mwy poblogaidd na'r gwr dyeithr o America, yr hyn oedd heb fod yn ddymunol iawn i'w deimlad, fel y gellid barnu. Ond ymgysurwn trwy geisio perswadio fy hun i gredu mai prin y gallasai Mr. Spurgeon, pe yn y pwlpud, lwyddo i gadw y bobl rhag myned i wrando y bregethwres, gan mor boblogaidd ydoedd.

Boddhaus genyf fuasai cael mwynhau ychwaneg o gymdeithas Mr. Morris, y gweinidog, ond hyny nid oedd yn gyfleus, gan ei fod o gartref y noson waith, ac ar y Sabboth yr oedd yn glaf.

Y fath restr hirfaith, drwchus o gapeli sydd yn holl Gwm Rhondda, a chymeryd i mewn gapeli yr holl enwadau, y rhai ydynt yn dra lluosog, yn neillduol eiddo y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Cyfansoddant linell ardderchog o amgaerau (forts) i weithredu yn erbyn gwersylloedd yr un drwg.

Wrth i mi fyned i fyny ac i lawr y Cwm hwn amryw droion yn ystod dwy wythnos, yr oedd amryw bethau