Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn taro i fy meddwl mewn perthynas i'r bobl a'r gymydogaeth.

Y fath nifer mawr o drêns glo hirion a redant yn barhaus, ddydd a nos, yn nghyfeiriad Caerdydd. Y mae yr olygfa arnynt, i ddyn dyeithr, yn ymddangos yn wir synfawr. Gwna'r olygfa symudol symud y meddwl i ddyfalu i ba le y mae yr holl symiau aruthrol hyn o lo yn myned.

Golygfeydd nosawl rhamantus ydyw rhestrau hirfeithion y ffwrneisiau coke a ymestynant ar hyd waelod y dyffryn.

Yr oedd fy meddwl yn aflonydd gan chwilfrydedd yn aml wrth ddyfalu am sefyllfa tanddaearol y parthau hyny, pan y mae cymaint o lo yn barhaus yn cael ei gloddio allan. Dyfalwn fod y mynyddoedd a'r bryniau amgylchynol yn cael chwilota trwyddynt yn fwy trwyadl na'r meusydd pridd-dwmpathog gan y waedd.

Mae poblogaeth fawr Cwm Rhondda yn ymddibynu bron yn hollol ar y gweithiau glo am fywioliaeth. Mae y ffaith yn gorlenwi y meddwl a syn-fraw. Ni ellir peidio esgyn yn uwch na deddfau ansefydlog masnach, am sicrwydd bywioliaeth ddigoll i'r trigolion lluosog. Ac y mae amlder moddion crefyddol yno, fel yn profi fod tuedd esgyn felly i'r dyben hwnw yn cael ei deimlo gan y bobl yn dra chyffredinol.

Bu cryn holi arnaf yn y parthau hyn gan bersonau am berthynasau a chyfeillion yn America. Anaml yr elwn i dy na fyddai prawf yn cael ei roddi ar helaethrwydd fy ngwybodaeth am bersonau yr ochr draw i'r Werydd. A gellid yn rhesymol farnu fy mod yn gwneyd pob ymdrech rhag bradychu anwybodaeth