Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn maes mor doreithiog; a chydnabyddwyf fod pob cynorthwy dichonadwy yn cael ei roddi i mi yn fynych gan holwyr, rhag fy nghael yn hollol amddifad o'r wybodaeth a ddymunid. Mynych ar yr heol yr oedd fy nghwrs yn cael ei fân-ddarnio wrth sefyll i ateb cwestiynau personau a feddent gysylltiadau teuluol yn cyrhaedd America bell. Er hyny, nid oedd darnio fy nghwrs yn darnio fy nhymer, ond yn hytrach yn ei gyfanu yn un cwrs o fwynhad wrth liniaru meddyliau pryderus ac ymofyngar. Yn niwedd yr oedfaon eto, yr oedd yr un dosbarth o bobl yn fy nghyfarfod. Rhai, efallai, a'm clywsent ar y pryd yn gwneyd cyfeiriadau at bersonau a phethau yn America, a thrwy hyny yn gloewi gan awydd clywed genyf am eu perthynasau a'u cyfeillion yn y gorllewin pell. Buasai yn foddhad mawr i mi allu cofrestru y tyrfaoedd ymofyngar hyn yn y llyfr hwn, ac yr oedd genyf fwriad ar y cyntaf i wneyd hyny, ond trwy iddynt luosogi i nifer aruthrol fawr, ofnais na fuasai genyf ddigon o le idd eu cynwys, a rhoddais i fyny y bwriad. Barnwyf, erbyn hyn, pe buaswn yn gwneyd gor-ymdrech i gael enwau a negeseuon holiadol a chofiadol pawb i mewn, y buasai yn anmhosibl i'r cyfeillion yn America ddod o hyd i'w cyfeillion yn Nghymru yn nghanol y fath nifer lluosog o bersonau a enwid.