PENOD VIII.
Adeg Etholiad.
Yr oedd etholiad 1885 yn y Deyrnas Gyfunol yn neillduol gynhyrfus. Yr oedd dros ddwy filiwn o bleidleiswyr newyddion yn ychwanegu y cynhwrf. Ar yr etholiad hwn yr oedd yn dwrf chwyldroadol trwy y wlad. Yr oedd nerthoedd cryfion ar waith. Lluchid i'r golwg haenau isaf cymeriad cenedloedd, pleidiau a phersonau. Yr oedd y nerthoedd yn gweithio oddifewn i fyny i'r arwyneb. Torent trwy haen gref Ceidwadaeth henafol. Gweithient yn rhwygawl trwy uch-fantell cymdeithas. Mewn manau, megys yr Iwerddon, a'r dinasoedd mawrion yn Lloegr ac Ysgotland, ymferwai llosgwy (lava) eiriasboeth o areithiau tanllyd trwy ddrysau a ffenestri llawer mynydd uchel o adeilad lle cynelid cyrddau. Ymruai llefau dwfn argyhoeddiad trwy lawer cymydogaeth. Ceid iaith blaen hawliau dynol yn dryllio yn chwilfriw iaith ddifwlch lednais dysg. Gosodasid troell naturiaeth yn fflam. Yr oedd llawer ffynon felus yn bwrw allan ddwfr chwerw.
Nid oedd Cymru yn rhydd oddiwrth y cynhwrf. Er nad oedd agos mor eithafol a manau eraill o'r Deyrnas, eto yr oedd hithau yn llawer mwy cynhyrfus nag arferol ar y fath adegau.
Wrth wneyd crybwyllion am yr etholiad yno, dosbarthaf yr adeg i ddwy ran. Y rhan flaenaf oedd pan y bu yr ymgeiswyr a'u cefnogwyr yn anerch y bobl; a'r rhan olaf oedd pan y bu i'r bobl anerch yr ymgeiswyr,