lwn yn anhyfryd. Annymunol oedd gwrando ar areithiwr y dymunid iddo lefaru yn dda, ac yntau yn methu. Yr oedd afrwyddineb yn peri i'r gwrandawyr anffurfio eu hunain wyneb a chorph yn ddiarwybod iddynt.
Cymerai gwrthwynebwyr fantais ar siarad gwael, i arllwys difriaeth, yr hyn oedd yn gwneyd sefyllfa llefarwr parabl rwystrol, a'i wrandawyr cefnogol, yn annymunol i'r eithaf. Addefaf i mi gael fy hun mewn cyflwr gwrandawol annymunol o'r fath, amryw droion yn y cyfarfodydd politicaidd hyn. Ac eto, mae llefarwr haciog, fo ofalus ar ei eiriau, ac i ddweyd y gwir, yn fwy dewisol na llefarwr amleiriog ymdywalltiadol llifeiriol ei eiriau, na fo ofalus am ffeithiau. Ac yn gyffredin, mae y prin a'r baglog ei eiriau, yn fwy tebyg o fod yn gywir ei ddywediadau, na'r hwn fyddo yn gallu marchogaeth iaith yn garlamol. Gall llawer o barabl-aratwch un fod yn effaith gofal am fod yn gywir; a gall llawer o barabl-gyflymder y llall fod yn effaith diofalwch am beth felly. Heblaw hyn, gall un fod yn sylweddol ddwfn-dreiddiol, a'r llall fod mor ddisylwedd a mân-us; y naill yn arafu yr araeth, y llall yn ei chyflymu.
Mewn cwrdd politicaidd y bum ynddo yn Mhwllheli, yr oedd y mathau yna, ac eraill, o areithyddiaeth mewn arferiad. Cafwyd araeth ddoniol yno gan y Parch. Mr. James, Nefyn (brawd Waldo). Dywedai fod Cymru yn nodweddiadol fel Gwlad y Bryniau, ond fod dau fryn yn fwy nodedig, y dyddiau hyny, na'r bryniau eraill yn gyffredin-sef Bryn Adda, a'r Bryn Gwyn (Bryn Adda yw enw cartrefle Mr. Jno. B. Roberts, Rhyddfrydwr, a Gwynfryn yw enw eiddo Mr. Nanney, Tori.) Ond Mr. James ddywedai mai gwell ganddo ef o lawer oedd Bryn