Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adda na Bryn Gwyn; fod y bryniau pan yn wynion, yn oerion iawn, ac yn gwneyd pobl yn grynedig ac annedwydd; fod Bryn Adda yn dra gwahanol-fod hwn yn meddu golygfeydd rhamantus, a gerddi dymunol yn amgylchu ei odreuon.

Gwr henafol hefyd a lefarodd mewn natur dda, nes nawseiddio tymerau ffyrniglawn y gwrthwynebwyr. Nid oes well cyngor na mai trwy addfwynder y mae dysgu rhai gwrthwynebus.

Mr. Gee, Dinbych, yr hwn sydd foneddwr parchus, a Rhyddfrydwr adnabyddus, a lefarodd yn y cwrdd. Ni fedd y genedl neb a fedr ddadleu hawliau Rhyddfrydiaeth yn well nag efe, ac o bawb a glywsom yn siarad ar wladyddiaeth, efe oedd y rhagoraf. A siaradodd yn ardderchog y tro hwn. Eglurai ddeddfau masnach rydd, y lles oddiwrthi i Brydain, y cynydd masnachol dirfawr a wnaeth er pan y dilewyd y tollau ar nwyddau tramor.

Bum mewn cwrdd politicaidd poblogaidd a gynelid ar fin yr etholiad, yn Llandudno. Llywyddid yn fedrus gan y Parch. H. Hughes (W.) Anerchwyd y cyfarfod gan amryw, ac yn mhlith eraill, y Parch. James Spinther James, M. A., ac offeiriad o Lanelwy. Yr offeiriad, tra yn dod o ganol ffau Dorïaidd i lefaru dros ryddfrydiaeth, gafodd fanllefau uchel o gymeradwyaeth.

Wrth ddeall fod gwr o America yn bresenol, yr oedd yn rhaid iddo fyned i'r esgynlawr i siarad. Dysgwylient i Americawr wrth gwrs fod yn Rhyddfrydwr, a dysgwylient hefyd iddo ddweyd y drefn yn erbyn gorthrwm. Dywedais wrthynt fy mod yn rhyfeddu fod yr areithwyr a glywswn yn dweyd can lleied yn erbyn y