Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I roi atalfa ar hyn, ymffurfiodd llu o fwnwyr a gweithwyr, oll yn Rhyddfrydwyr, yn orymdaith reolaidd, gan agoshau at y bwth, a chanu, "Hold the fort, for we are coming."

Tra dyddorol i mi oedd bod yn Llandudno yn ystod rhai o ddyddiau yr etholiadau. Elwn bob hwyr i ystafell swyddogol y Rhyddfrydwyr, lle y derbynient ac y darllenent y telegrams a gynwysent ganlyniadau rhifyddol yr etholiadau yn ystod y dydd. Ar draws yr ystafell hon yr oedd gwahanfur, yn ei dosranu yn ddwy adran. Nid oedd y gwahanfur hwnw yn cyrhaedd ond hyd haner y ffordd i'r nenfwd, yr hyn oedd yn fantais ar rai adegau i'r tra ymofyngar, wedi iddo weithio ei fodolaeth i'w ymyl uchaf, i gael gweled a chlywed pethau oeddynt yn myned yn mlaen ar yr ochr arall. Yn yr adran allanol o'r ystafell, yr oedd y lluaws pobl yn pryderus ddysgwyl am y newyddion, ac yn amlygu eu teimladau yn amrywiol yn ol natur y newyddion, ac yn ol eu natur hwythau tuag atynt. Y Cadeirydd oedd ddyn ieuanc tua deg ar hugain oed, golygus, addfwyn a deallgar, yn gallu amlygu ei feddwl yn bur rhwydd a difwlch yn yr iaith Saesoneg. O bob tu i ganol-fur yr ystafell yr oedd amryw feirdd a llenorion lleol o gryn fri. Rhwng y telegrams, adroddid aml i englyn a phenill—rhai yn dda, a rhai heb fod yn dda. Pan y byddai y newyddion yn ffafrio y Torïaid, clywid murmur o anfoddlonrwydd. Pan y byddai y teimlad yn gymedrol dwym, murmurid yn y ddwy iaith; ond pan yn frwdfrydig anghyffredin, byddai y Gymraeg yn boddi y Saesoneg, ac ar adeg felly byddai defnydd mynych yn cael ei wneyd o eiriau cryfion yr Omeraeg. Ond yr hyn