a ogleisiau fy asbri yn benaf oedd gwaith y cadeirydd yn darllen y telegrams, ac yn traddodi mân-areithiau eglurhaol a chalonogol. Yr oedd yn well genyf ei glywed yn gwneyd hyny yn Saesoneg, braidd, nag yn yr hen Gymraeg. Yr oedd math o lediaith Cymreig yn gymysgedig a diniweidrwydd Cymreig yn ei leferydd a'i eiriau, ag oedd yn foddhaus iawn i mi. Yr oedd y nodweddau neillduol hyn yn parhau yn foddhaus, ac i swnio yn ogleisiol hyd yn nod pan y byddai y newyddion yn anffafriol i'r Rhyddfrydwyr. Anhawdd fy nghael i gredu fod un swyddfa darllen telegrams yr etholiadau, yn un rhan o'r Deyrnas Gyfunol, yr adeg hono, mor ryw fwyn bleserol ag oedd y swyddfa hon, na chyfeillion mor hoff yn un man i'w cael. Ni haeraf na allasai fod rhai ystafelloedd darllen telegrams mewn manau yn Nghymru yn agos at hon mewn brwdfrydedd, megys y rhai hyny lle y derbynid sicrwydd fod yr ymgeisydd y pleidleisiasai pobl yr ystafell drosto, wedi bod yn fuddugoliaethus; ond ni fuasai hyny drachefn yn sicrhau dim heblaw brwdfrydedd mawr. Ni fuasai yn rhoddi lle i ddysgwyl am arabedd dawn a digrifwch bechgyn Llandudno.
Cawsai yr etholwyr newyddion eu hunain mewn helbulon newyddion, os yn Rhyddfrydwyr. Parai lleffetheiriau y landlord benbleth mewn llawer teulu. Pur anhawdd, yn aml, fyddai ymryddhau o'r fagl. Yr oedd y rhwyd yn cael ei gosod ar bob agorfa amgylchynol. Anhawdd oedd gallu dweyd "Na." Cynaliwyd aml i gyngor mewn aml deulu i benderfynu y cwestiwn. Weithiau methid cadw cyfrinion y mater o fewn cylch cyffredin y teulu. Gwnai dwysder yr ager dori y