cylchau. Mewn rhai eithriadau, efallai, cymerai y gwr y prif wâs i'w gyfrinach, a'r wraig wasanaethyddes brofedig i'w chyfrinach hithau. Yr oedd rhwystr arall yn cyfodi ar ffordd y fotiwr newydd. Wedi penderfynu i bwy i fotio, sut i fotio oedd y mater pwysig nesaf. Yn y bwth, yr oedd galwad am i'r fotiwr roddi croes gyferbyn a'r enw dewisol ganddo; ac i ddyn o dan gynhyrfiadau yr adeg, a llygaid cyfreithiol gwyliadwrus gerllaw, nid yn hawdd oedd i lawer un gwan, roddi y croesiad yn gywir, yn neillduol pan gofier fod y Rhyddfrydwyr a'r Torïaid yn flaenorol wedi rhoddi cyfarwyddiadau gwahanol i'r fotiwr mewn perthynas i pa fodd, a pha le i roddi y marc croes ar y tocyn yn y bwth. At hyn eto yr oedd penbleth arall yn dychrynu y Rhyddfrydwr newydd―y perygl i'r landlord Toriaidd wybod pa fodd y pleidleisiodd y deiliad. Parai y perygl tybiadol hwn achreth flin i lawer gwladwr oedd yn myned at yr ethol-fan am y tro cyntaf erioed. Crynai llawer llaw gref wrth wneyd y croesiad. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer o'r croesiadau yn groesach nag oedd eisiau. Parodd yr anhawsder cysylltiedig a pha fodd, a pha le i roi croes-farç, i filoedd o bleidleiswyr newyddion gamsynied y lle, os nad y modd. Tystiolaethid i'r Rhyddfrydwyr golli nifer fawr o bleidleisiau o herwydd y dyryswch.
Yr oedd y Torïaid cyfoethog yn eu palasau amgaerog hefyd mewn penbleth. Gwelent yr awdurdod a'r gallu gwleidyddol yn llithro o'u dwylaw i ddwylaw y bobl. Yr oedd yr ystyriaeth o hyn yn ferwinol iddynt. Treiddiai y ffaith lem hon trwy fodolaeth drwchus y mawrion. Nid oedd eu parciau helaeth, a'u muriau