caerog yn effeithiol i'w diogelu rhagddi. Nid oedd y palasau fflachiog eu ffenestri, na mwynianau pentyrol eu hystafelloedd, a'u dawns-barlyrau yn ddigonol i gadw y bustl-deimlad draw. Nid oedd dim tarianau i'w cael rhag rhwygiadau y brysebau hysbysol o lwyddiant Rhyddfrydiaeth a methiant Toriaeth. Pan y byddai arglwydd y tir yn ymgeisydd aflwyddianus, y ceid y siom-frathiadau dyfnaf. Cafodd rhai o wyr y palasau yn Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon, eu harcholli yn dost gan ruthriadau y frwydr boliticaidd hono Ymadawodd awdurdod Seneddol o rai teuluoedd am y tro cyntaf o fewn haner cant o flynyddau ac ychwaneg. Tro ar fyd oedd peth felly.
Yn ystod y dyddiau yr oedd y cynhwrf gwlad-lydan wedi ei ddirwasgu i redeg ar hyd llinellau culion gwefrol y telegraph, yr oedd yr effeithiau yn ymsaethol a'r picellau yn drywanol i lawer calon ffrom-falch. I eraill yr oedd y brysebau yn cael eu dysbedain fel sain yr arian glych. Trwy holl Gymru bron yr oedd y brysebion fflachiadol yn ymffurfio yn golofn o dân arweiniol i gyfeillion rhyddid, ac yn golofn o niwl a thywyllwch i'r ymlidwyr Torïaidd.
Credwyf fod y cynhwrf etholiadol hwn yn cyrhaedd i lawr yn isel i'r deyrnas anifeilaidd. Yr oedd yr ysgyfarnogod a'r cwningod yn sicr o fod yn anesmwyth am y canlyniadau. Yr oedd y tyrfau yn peri iddynt godi eu clustiau i fyny yn fwy nag arfer, a pheri iddynt ddyfal fyfyrio. Ac yn sicr, dylasent hwy fod yn cymeryd dyddordeb yn y materion terfysglyd hyn, canys y maent yn dwyn cysylltiad a'u hawliau. Y mae llwyddi-