Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ant y Rhyddfrydwyr yn y man, yn sicr o gyfyngu ar eu terfynau.

Yr hyn y mae pobl Cymru yn sefyll yn arbenig mewn angen am dano ydyw cael eu dysgu i ddeall eu hawliau. Y mae fod cynifer o'n cenedl yn fotio i'r Torïaid, yn brawf diymwad nad ydynt yn deall beth y maent yn ei wneuthur, canys anmhosibl credu y rhoddent eu pleidleisiau iddynt o gwbl pe deallent eu bod yn milwrio yn erbyn eu buddiant eu hunain. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng Cymry America a Chymry Cymru yn trafod politics. Mae ein cydgenedl yn America mor ddeheuig a neb pwy bynag yn nefnyddiad eu hetholfraint, tra y mae pobl Cymry yn mhell ar ol y Saeson yn y peth hwn. Pan gollodd y Cymry eu hannibyniaeth, collasant bob dyddordeb mewn gwladyddiaeth. Yr oedd hyn yn eithaf naturiol. Ac o hyny hyd yn gymharol ddiweddar, rhyw oddefol y maent wedi bod o dan law y Saeson. Pan oeddwn fachgenyn, Robert y gof a Shon Owen y teiliwr oedd yr unig ddau yn holl Garn Dolbenmaen oedd yn gwybod dim am bolitics. Y mae yn dra gwahanol yno yn awr, ond eto y mae lle i welliant, ac felly trwy holl Gymru. Eisiau dysgu y bobl sydd; a phan wneir hyny, bydd tro ar fyd yn Mhrydain Fawr. Pan y dysgir y bobl pa fodd, a thros bwy i bleidleisio, pan gynrychiolir y werin yn y Senedd, daw y bobl yn rhydd o'u cadwynau. Mae yn hen bryd i hyny gymeryd lle. Mae y mawrion wedi bod yn gorthrymu y tlawd a'r gwan am ddigon o oesau. Chwareu teg i'r bobl gyffredin a ddaw. Henffych i'r dydd. Nid oes neb yn fwy teilwng o barch na'r bobl weithgar, onest; hwynt-hwy, yn mhob gwlad, ddylent,