Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar bob cyfrif, gael y parch mwyaf. Hwynt-hwy yn Mhrydain ydynt nerth yr ymerodraeth. Pa reswm yw fod y wlad yn meddiant rhyw ychydig gyfoethogion? Pa reswm fod miliynau o arian y bobl yn myned i'r giwdawd sydd yn amgylchynu y Frenines a Thy yr Arglwyddi? Mae yn rhaid i'r anghyfiawnderau hyn ac eraill gael eu symud yn y dyfodol agos, neu ynte bydd yn fawr gynhwrf yn y wlad, ac y mae y newyddion diweddaraf o Gymru fel yn arwyddo fod y cynhwrf eisoes wedi dechreu.


PENOD IX.

Yn Risca a'r Cwm

Yr eglwys a gyferfydd yn "Moriah," Risca, yn wreiddiol ydoedd gangen o eglwys y Cefn, Bassaleg. Ymryddhaodd oddiwrth y fam eglwys ddydd Nadolig, 1835. Ar ddyddiau Sabboth a Llun, Rhagfyr 20 a 21, 1885, cynaliodd yr eglwys gyrddau haner can' mlwyddol, i ddathlu adeg ei sefydliad. Yn gyson ag arbenigrwydd yr achlysur, chwenychai yr eglwys a'i gweinidog addfwyn, gael cynifer o gyn-weinidogion yr eglwys i wasanaethu yn y cyrddau ag oedd ddichonadwy. I'r dyben hwnw gwahoddwyd y Parchn. Thomas Lewis, Risca; B. D. Johns (Peiriander), Pont-y-pridd, a'r ysgrifenydd. Lluddiwyd Mr. Johns i fod yn bresenol. Heblaw yr uchod, gwasanaethodd y Parchn. Evan Thomas, Casnewydd; T. Thomas, Bethany, Risca; W. H. Davies, Tirza, ac eraill o weinidogion y cylch. Pas-