Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D. W. James, Ysw., gerllaw Abercarn. Mae dyddiau blin hen oedran wedi ei dal, a theimla yn dra methedig.

Mrs. Rees, Derwallt, oedd chwaer ragorol arall oedd yn aelod yn Moriah. Bu hi a'i theulu yn gynorthwy mawr i'r achos am feithion flynyddau.

Capel Moriah


Dranoeth wedi y cyrddau, treuliais beth amser yn brudd-hiraethlon yn mhlith y beddau yn mynwent Moriah. O'm cylch yno, ar bob llaw, gwelwn feddau personau oeddynt yn aelodau selog a gweithgar yn yr eglwys hon gynt.

Y mae tri o gyn-weinidogion yr eglwys wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, sef y Parchn. David Edwards, James Rowe, a William Jenkins.

Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Evan Thomas, dyn ieuanc addawol iawn, yr hwn sydd yn profi ei hun-