an yn weithiwr difefl, ac y mae yr eglwys o dan ei ofal yn dra llewyrchus.
Poenus ydyw gweled y Saesoneg yn enill tir yma, fel yn gyffredin yn Mynwy; ond ni ddylid cwyno os ydyw hyny yn hanfodol i lwyddiant yr achos.
Cefais oedfa nosawl yn nghapel Cymreig Abercarn. Capel hardd, costfawr a newydd ydyw. Mae yr hen gapel wedi ei roddi yn rhad i'r Saeson. Rhyfedd mor garedig yw y Cymry i'r Saeson. Nid ydynt hwy byth yn rhoddi capel felly i ni am ddim. Ond meddal garedig ydym ni bob amser, ac ni allwn fod yn wahanol. Mae eglwys gref gan y Bedyddwyr Saesoneg gerllaw y Cross Keys, rhwng Risca ac Abercarn. Beth am yr hen Beulah? ebe rhywun. Wel, y mae yr hen Beulah yn fyw o hyd, ac yn iach—yn iach yn y ffydd hefyd. Mae y capel wedi myned o dan adgyweiriad mawr yn ddiweddar. Gadawyd y muriau i sefyll fel o'r blaen; ond am bob peth arall, wele, gwnaethpwyd pob peth o newydd—seti newydd, pwlpud newydd-platform yn hytrach. "Gwarchod pawb! (ebe chwi) platform yn Beulah?" Ie wir, oblegid bum ynddo, a phlatform ardderchog ydyw hefyd. Deallwyf fod yr hen fainc a arferai fod o dan draed y pregethwr yn yr hen bwlpud ar gael, yn nhy y gweinidog, yn cael ei chadw yn gysegredig i gofio am ei swydd bwysig. Heblaw y gwelliantau crybwylledig, y mae y parwydydd wedi eu plastro yn hardd; ac y mae ei ffrynt yn olygus dros ben, fel erbyn cymeryd yr oll i ystyriaeth, gellir dweyd ei fod i fyny a'r un capel yn y cylchoedd. Costiodd ei adgyweirio dros chwe' chant o bunau. Da iawn, hen