Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys barchus Beulah, hen gartref llawer o'r pererinion tua'r wlad fry. Mae y Parch. James G. Davies, y gweinidog presenol, wedi gwasanaethu yr eglwys er ys dros ugain mlynedd. Yr oeddym yn gyd-fyfyrwyr gynt yn Athrofa Hwlffordd, a mwynhad nid bychan i mi oedd cael cyfleusdra i dreulio ychydig ddyddiau yn ei gymdeithas, ac o dan ei gronglwyd ef a'i briod hawddgar, ac yn neillduol i gael pregethu yn yr hen Beulah, wedi ei adgyweirio mor ysblenydd. Mae fy nghyfaill hoffus, Mr. Davies, yn rhyfeddol o barchus gan bobl ei ofal, ac y mae yr eglwys mewn cyflwr teilwng o'r capel yn ei ffurf adgyweiriedig. Methodd Mr. Davies gan anhwyldeb iechyd ddod i'r oedfa, a'r peth cyntaf a ofynodd i'w wraig pan yn dod i'r ty oedd, "Pa fodd y pregethodd Giraldus?" Ebe hithau ar amrantiad, "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Yn fedrus iawn fel yna canmolai y llefarwr, gan nodi ei destyn yr un pryd. Caffed y ddau, Mr. a Mrs. Davies, lawer o flynyddau i gyd-fyw eto. Ymadewais gyda theimladau tyner.

Yn eu hymyl mae y brawd da Mr. Evan Phillips. Gan iddo ef fod yn America flynyddau yn ol, yr oedd hyny yn ychwanegu at ddyddordeb ein cymdeithasiad.

Gwelsom yr hybarch John Lewis, Blaenau Gwent. Mae ef yn tynu at ei bedwar ugain a deg oed, ac yn parhau yn hynod o gryf a heinyf.

Y Parch. T. T. Evans yw y gweinidog presenol yn Blaenau Gwent. Brawd rhagorol ydyw, ac y mae yn llwyddianus a dedwydd. Mae y Saesoneg yn cynyddu yma. Y mae yr hen gapel wedi ei adgyweirio, a vestry gyfleus wedi ei chodi. Cefais oedfa gysurus yma, ac