ymddyddanion dyddan a hen gyfeillion-llawer yn holi am ffryndiau a pherthynasau yn America, yr hyn, o ran hyny, oedd yn cael ei wneyd yn mhob man yr elwn.
Yma mae yr enwog Nefydd wedi ei gladdu. Bum wrth ei fedd. Teimlwn y llanerch yn gysegredig. Mae cofadail olygus ar ei fedd, yn agos i ffrynt y capel.
Gwelais yn Abertelery, Mr. Phillips, y Cyn-Seneddwr fu yn Nhalaeth Pennsylvania. Cartrefa yma yn awr. Cefais fy siomi yn yr ochr oreu yn y Blaenau. Mae y Blaenau yn uwch i fyny na Blaenau Gwent. Y Blaenau hwn yw hen faes Nefydd. Bum yn lletya noswaith yn nhy ei anwyl ferch, Mrs. Lewis, yr hon a'i theulu sydd yn byw yn y ty agosaf i'w hen gartref. Yma yr oeddwn pan ymadawai yr hen flwyddyn, a'r flwyddyn newydd yn dod i mewn, ac yr oeddwn gyda y teulu yn cyd-wylied y mynydau hyny. Llonwyd ni awr cyn hyny a phresenoldeb côr, yr hwn a dderbyniwyd i'r ty, ac a ganodd emynau a chaneuon cydweddol a'r adeg.
Mae y gweithfeydd yma yn myned yn llawer gwell nag yr arferent flynyddau yn ol, ac y mae yn peri fod llawer o Gymry wedi dychwelyd, a newydd-ddyfodiaid wedi dod, yr hyn sydd yn peri i raddau fod yr achos crefyddol wedi cyd-wella.
Mae y brawd Evans, y gweinidog, yn dderbyniol a pharchus yn hen faes Nefydd. Yn flaenorol iddo, y Parch. Aled Jones oedd y gweinidog. Y mae efe yn awr yn gyflogedig gan Fwrdd Ysgol y Cylch, fel Goruchwyliwr. Ystyrir ei ymneillduad ef o'r weinidogaeth sefydlog, yn golled nid bychan i'r enwad, gan ei fod yn