Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r glust. Mae yn bêrorol. Mae yn rhoi sain bereiddfwyn i'r iaith. Mae yn cydgordio seiniau cyneddfau goreu y natur ddynol Gymreig. Mae yn hunan-gymeradwyol. Mewn ymddyddan difyrgar mae yn orthrechol swyngar.

Gwahaniaetha oddiwrth ynganiad sarug rüol y Sais. Nid yw mor orchymynol a'r eiddo ef. Nid yw yn rhwygo yr awyr fel yr eiddo ef. Nid yw mor gleciadol a'r eiddo ef. Nid yw mor glogyrnaidd frochus. Yn hytrach, mae yn dyner leisiol; medda swn caredigrwydd a chydymdeimlad.

Gwahaniaetha yr ynganiad Cymreig hwn o'r Saesoneg hefyd oddiwrth ynganiad yr Americanwr. Y mae mor aceniadol gynganeddol a'r eiddo yntau. Gwahaniaetha yn benaf mewn goslefiad. Mae yn debyg i eiddo yr Americanwr mewn rhai ystyron, ac yn annhebyg mewn ystyron eraill. Mewn rhai nodweddau y mae cystal, ac mewn rhai nodweddau y mae yn rhagori. Nid yw mor sych-lefol; nid yw mor fyr-sydyn doriadol a'r eiddo ef. Nid yw mor sain ffroenol. Mae y seiniadaeth Gymreig hon o'r iaith fain yn meddu cryn lawer o ragoriaethau ynganiadau y Sais â'r Americanwr, ac ychydig o'u beiau.

Nis gwn a fedd Scotiaid a Gwyddelod diwylliedig sain-leisiau neillduol iddynt eu hunain, gwahanedig oddiwrth lediaith gyffredin anghymeradwyol. Os na feddant yn bresenol ynganiadau o'r fath, mae yn eithaf posibl y gall dosbeirth o'r Scotiaid a'r Gwyddelod ffurfio ynganiad felly yn y dyfodol agos-ynganiad diwylliedig, canmoladwy a safonawl.

Yn gymharol ddiweddar y mae yr ynganiad safonawl