Cymraeg o'r Saesoneg yn adnabyddus ac amlwg yn Nghymru. Idd ei feddu, rhaid oedd i'r bobl gyrhaedd gradd arbenig o ddiwylliant. Rhaid oedd i'r diwylliant hwnw gynwys ynddo ddiwylliaeth cyneddfau lledneisiaf y natur Gymreig. Rhaid oedd i'r natur Gymreig, yn ogystal a'r synwyrau Cymreig fyned trwy gwrs ymddadblygiant. Rhaid oedd myned trwy ddiwylliant eang ac amrywiaethol. Diwylliant eang amrywiaethol felly yn unig sydd yn rhyddhau yr anhyddysg oddiwrth barabl afrwydd lediaithol. Diwylliant felly. sydd yn codi dosbarthiadau o bobl i uch-safle o sefydlogrwydd trefn a gweddeidd-dra, moes ac ymddygiad. Diwylliant felly sydd yn amod ynganiad seinbêr i'r iaith a lefarwn-bydded yr iaith hono y fwyn famiaith, neu ynte bydded iaith gymysg-rywiol estron genedl.
Adnebydd y glust bêreidd-der y sain Gymreig o'r Saesoneg gyntaf efallai yn ymddyddanion y boneddigesau. Ac ni fyddai ryfedd pe ceid allan yn y man mai yn eu plith hwy y dechreuodd yr adran fendigaid hon o ddiwylliant. Yn bresenol nid oes dim yn eglurach na'u bod hwy yn meddu rhan flaenllaw yn ei dadblygiad. Modd bynag, y mae y sain-lafar hon yn soniarus o enau y boneddwr neu y foneddiges, ac yn neillduol seinbêr mewn ymddyddan cymdeithasol, pan y byddo y ddwy ystlen yn cymeryd rhan yn yr ymddyddan.
Buasai garddwr yn darlunio y sain newydd, efallai, fel blodeuyn prydferth yn ymddadblygu i'r haulwen, mewn gardd aml swynion. Ysgatfydd buasai pêrorydd yn ei darlunio fel nodyn newydd yn nghân ymdeithiol yr hil ddynol ar hyd banau gwareiddiad y bedwerydd ganrif ar bymtheg.