NAW MIS YN NGHYMRU.
PENOD I
Rhagdrefnu i'r Daith, ac yn Cychwyn.
Wrth godi y "fflodiart" i roi dwfr ar y felin lyfrol y tro hwn, addefaf yr ymgryna fy meddwl gan bryder am natur y blawd a ddisgyn i'r cafn ond gan nad beth ei natur, rhaid gwneyd y goreu yn awr o'r malu, gan fod yr olwynion yn dechreu symud.
Mawr yw y fintai a geir yn flynyddol yn nechreu yr haf, yr ochr hon i lyn y Werydd fawr, yn dysgwyl am lonyddiad (nid cynhyrfiad) y dwfr, fel y gallont hwy ddisgyn iddo a hwylio drwyddo gyda'r gobaith, yn ddiau, o gael iachâd o ba glefydau bynag y dichon iddynt fod yn dyoddef oddiwrthynt.
A chan fod myned ar ymweliad i Ewrop yn beth mor gyffredin yn y blynyddau hyn, yn mhlith "gwyr y wlad yma,” ni ddylid gwarafun, gan hyny, i'r Cymry, brodorion oddiyno, os ceir hwythau hefyd yn dilyn y ffasiwn boblogaidd hon. Ac fel esgusawd arall (os oes angen un), gellir nodi, heblaw fod y Cymry wrth ymdeithio i Ewrop, yn myned i'w hen gartref-gwlad eu genedigaeth-gwlad paradwys boreu oes, a hen wlad eu tadau—y maent hwy wrth fyned yno yn myned i'r rhanbarth odidocaf yn Ewrop; canys meiddiwn ddy-