Mewn trefn i egluro fy hun yn mhellach ar y mater hwn, rhoddaf ychydig o hanes dadblygiant y sain newydd hon i'r Saesoneg. Wrth gwrs, mae hanfod y sain newydd yn gorphwys ar, ac yn tarddu oddiwrth y natur ddynol Gymreig, a'r iaith Gymreig. Y ddwy elfen neillduol hyny ydynt ddefnydd ei chymeriad. Hwynthwy sydd yn ffurfio prif lais ei phêroriaeth. Ond y mae ei dadblygiant i'w ffurf bresenol i'w briodoli i amryw foddion diwylliant cyfaddas.
Credwn fod a fyno cerddoriaeth a'r sain newydd hon. Mae Cymru wedi gwneyd cynydd dirfawr mewn cerddoriaeth yn ngorph y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Fel prawf o hyn cyfeiriwn at gystadleuaeth fuddugoliaethus y palas grisial. Mae y genedl wedi hir dyfu yn y cyfeiriad hwn, nes erbyn hyn y mae pob ardal yn meddu corau dysgybledig. Odid nad yw pawb yn gerddorion. Gellir cyffelybu Cymru i orchestra a'i horielau aml-fryniog yn frith gan gantorion pêrseiniol. Mae y dylanwad i'w ganfod ar barabl dyddiol y bobl. Mwyneiddia y llais, croewa yr aceniad, prydfertha yr ymadroddion, cydgordia lais y deall a llais y teimlad. Treiddia y sel gerddorol i barthau mwyaf Seisonigaidd y Dywysogaeth. Yn Eisteddfodau y manau hyny ni cheir nemawr heblaw cystadleuaeth gerddorol. Felly, rhaid fod effeithiau llais diwylliol y gelfyddyd bêrorol yn treiddio banau uchelaf cymdeithas yn Ngwlad y Bryniau.
Yn y cysylltiad hwn gallwn nodi fod ymarferiadau llenyddol, rhyddieithol a barddonol yr Eisteddfodau yn dylanwadu yn yr un cyfeiriad. Teilynga yr Eisteddfod air da. Y mae yn ei gwahanol adranau yn foddion di-