PENOD XI.
Wrth Feddau Enwogion.
Wrth ychydig feddau enwogion y genedl y caniataodd amser a chyfleustra i mi fod. Pe cawsai fy nymuniad ei ffordd, buaswn yn ddiau wedi bod wrth feddau nifer lluosog. Pe yn gyfleus, buaswn wedi bod wrth feddau amryw yr arferwn eu hadnabod pan yn fyw, ac: eraill yr adnabyddwn hwynt yn unig trwy eu gweithiau awdurol, neu trwy eu henwogrwydd a'u henw da.
Bum wrfh fedd yr enwog Christmas Evans, yn mynwent Bethesda, Abertawe. Nid hwn oedd y tro cyntaf i mi sangu y llanerch gysegredig hono, eto yr oedd y teimlad yn hollol newydd. Yr oedd fy nghamrau yr un mor ofalus wrth agoshau at y bedd, ag oeddynt y tro cyntaf, os nad yn fwy felly, yn gymaint a fy mod yn awr yn gwybod yn gywir y llanerch lle yr ydoedd. Parodd neillduolrwydd y fan neillduolrwydd teimlad a myfyrdod. Adgofiwn yma adroddiadau hen seintiau a wrandawsai ar Christmas yn efengylu anchwiliadwy olud Crist. Adgofiwn eu dywediadau a thôn edmygawl eu lleferydd, yn nghyd a delweddiad eu gwynebau wrth fynegu i mi am y seraph tanllyd hwnw. Adgofiwn fy edmygedd o Christmas Evans fel yr ymddangosai i mi yn eu dywediadau a'u hadroddiadau hwy am dano. Yn neillduol adgofiwn ymddyddan hen chwaer dduwiol, sef Mrs. Mary Evans, gweddw y Parch. Evan Evans, y Garn, yn fuan wedi claddedigaeth corph y Parch. Thomas Rhys Davies yn medd Christmas Evans. Yr