oedd y chwaer yn eiddigeddus fod y fath beth wedi dygwydd. Nid ystyriai y dylasai neb pwy bynag gael ei gladdu yn yr un bedd a dyn mor fawr, mor seraphaidd a sanctaidd ag oedd efe. Ystyriai y chwaer fod gorwedd yn yr un bedd a Christmas yn fwy o anrhydedd nag oedd y ffraeth bregethwr hwnw, er mor ragorol, yn ei haeddu. Ystyriai yn benodol y dylasid cadw bedd Christmas yn gysegredig iddo ef ei hun. Credwyf yn mhurdeb chwaeth a chywirdeb barn y chwaer hono ar y mater hwn. Bum yn siarad a rhai am hyn ar ol ei chlywed hi yn datgan ei hangymeradwyaeth. Rhai gweinidogion a phersonau o safle yn yr enwad, a ddygent dystiolaethau o'r un natur.
Yr oedd y ddau, Christmas Evans a Thomas Rhys Davies, yn gyfeillion agos yn eu dydd. A phan y trefnodd rhagluniaeth i'r olaf orphen ei yrfa yn yr un man, ac yn yr un ystafell a'r cyntaf, amlygodd ddymuniad i'r cyfeillion oedd yn ei amgylchynu yn ei oriau olaf, am gael ei gladdu yn yr un bedd a Christmas Evans.
Dirgel gredaf na fuasai Christmas Evans yn foddlawn i'r dymuniad, pe yn rhagwybodus o hono yn ei ddydd. Christmas Evans fu farw Gorphenaf 19, 1838. Rhai o'i eiriau olaf oeddynt, "Yr wyf ar ymadael, yr wyf wedi llafurio yn y cysegr er's tair ar ddeg a deugain o flynyddoedd, a dyma yw fy nghysur a'm hyder yn y bwlch hwn, nad wyf wedi llafurio yno heb waed yn y cawg. Pregethwch Grist i'r bobl, frodyr anwyl."
"Tra yn y byd cai anrhydedd,
A cha barch yn llwch y bedd."
Nid yw y bedd yn bresenol yn ei gwedd arferol. Yn ddiweddar y mae eglwys barchus Bethesda wedi bod