Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ail adeiladu y capel. Wrth wneyd hyny, gwelwyd yn angenrheidiol symud y gareg fedd, yr hon bwysai ar fur y capel, os nad yn osodedig yn y mur. Mae y beddfaen yn bresenol yn gorwedd ar y bedd. wedd hon yn ddiau, i aros cyflead gwell iddi. modd peidio prophwydo am adeg heb fod yn mhell, pan y bydd cof-golofn anrhydeddus o farmor hardd yn cael ei chyfodi i'r enwog bregethwr. Gresyn na fyddai hyny yn cael ei wneyd tra fyddo llawer a drydanwyd gan ei athrylith anorchfygol, yn fyw, fel y gallent hwy gael y fraint o gyfranu at gofadail un a edmygent, ac a garent mor fawr.

Bum wrth fedd yr hybarch Henry Rees. Mae ei fedd ef yn mynwent hen eglwys Llandysilio, ger Porthaethwy, ar fin afon Menai. Ar adegau, bydd dyfroedd yr afon yn amgylchynu yr ynys fechan ar ba un y mae yr eglwys a'r fonwent. Mae y fan neillduedig yn cyd-daro a safle unigol ac uwchraddol yr hybarch bregethwr yn ei ddydd. Pan y bu farw John Elias, nid oedd neb yn fwy cyfaddas na Mr. Rees, yn Ngogledd Cymru, i gymeryd ei le fel blaenor yn yr enwad. Ac iddo ef y rhoddwyd lle y gwron o Fon, i flaenori yn ngweithrediadau cyffredinol a chyhoeddus y Corph. Bu farw Chwefror 18, 1869. Bernid nad oedd dim llai na thair mil o bobl yn ei gladdedigaeth; chwe' chant o ba rai a ddaethant yr holl ffordd o Lerpwl.

Gan fy mod yn meddu parch diffuant i'w enw da, ac edmygedd mawr o'i ddoniau dysglaer, aethum i weled ei fedd. Yr oedd hyn yn Mawrth, 1886. Ar y pryd yr oedd caenen drwchus o eira gwlyb dros y ddaear, ac nid heb gryn ymdrech y gellais gyrhaedd y fan. Mae