nabyddai ei enwad a'r wladwriaeth ef yn bwysig. Ac ni allai efe beidio bod yn fawr; yr oedd elfenau mawredd yn ei wneuthuriad a'i dueddiadau cynwynol. Pell iawn fyddai efe bob amser o fod yn chwythu ei glod ei hun, pa mor fanteisiol y cyfleustra. Pan y bu farw Nefydd, collodd Cymru un o'i hynafieithwyr blaenaf. Pan y bu farw Nefydd, collodd yr ysgolion dyddiol y ffrynd goreu oedd iddynt yn Neheudir Cymru. Pan yr hunodd efe, collodd y Blaenau ei dyn a'i phregethwr blaenaf. Pan yr hunodd efe, collodd yr enwad un o'i gweinidogion enwocaf, ac un o'i chyngorwyr mwyaf ffyddlawn a chywir. Wrth fedd Nefydd, meddianid fi gan deimladau coffadwriaethol neillduol. Efe oedd un o'r gweinidogion a wasanaethent yn nghwrdd fy ordeiniad yn Risca, yn 1861. Yr oedd ein cyfeillgarwch wedi dechreu pan oeddwn yn yr Athrofa, ac efe a brofodd ei hun yn ffyddlawn i mi fel cyfaill hyd y diwedd.
Wele restr o eraill yr ymwelais a'u beddau : Parchn. Mr. Thomas, Trehael, Sir Benfro; David Price, Blaeny-ffos; John Williams, Aberduar; Rufus; William Morgan, Caergybi; John Williams, Garn (diweddar o Golwyn); James Rowe, Abergwaen. Cawn wneyd sylwadau am yr ymadawedigion uchod wrth adrodd hanes ymweliadau a'r ardaloedd lle y claddwyd hwynt.