Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XII.

Yn Sir Fon

Er nad yw ardal fy ngenedigaeth yn mhell oddiwrth derfynau Sir Fon, eto aethai dros haner cant o flynyddau heibio cyn i mi gael y fraint o sangu ei chynteddau. O'r diwedd daethai y cyfleustra. Dygwyddodd hyny yn Mawrth, 1886. Yr oedd galwad arnaf, tra yno, i fod yn brysur, canys dwy wythnos yn unig oedd yn y trefniant i mi aros yn yr ynys.

Rhaid i mi addef nad oeddwn yn deall arwyddion y tywydd a'r amserau yn rhy dda ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Pe gwybiaswn fod y fath dywydd tymestlog ar fin ymdywallt ar y wlad y pryd hwnw, diau mai anhawdd fuasai cael genyf gychwyn i'm taith o Gaernarfon. O ran hyny, prin yr oedd neb o brophwydi y tywydd yn gallu rhagweled y storom fawr oedd yn nesu. Nid oes dim yn America y byddaf yn arfer cwyno mwy o'i herwydd na'r tywydd oer a'r eira mawr. Ac yn awr ofnwn braidd fy mod yn cael tipyn o gerydd gan ragluniaeth am hyny, trwy gael fy arwain i fod ar daith yn Mon yn ystod y dymestl anarferol o wynt ac eira a ysgubodd dros holl Ogledd Cymru y pryd hwnw. Prin y bum allan ar dywydd mwy tymestlog yn America nag oedd hwnw. Yn wir, daethai mis Mawrth y tro hwn i mewn fel llew, ac nid oedd yn rhy debyg i oen yn myned allan. Cwynai y bobl yn anghyffredin oblegid erchylldra a gerwindeb y tywydd. Tystiai hen bobl nad oeddynt yn cofio y fath dywydd tymestlog