er's llawer o flynyddoedd, os erioed. Boreu y dydd Llun y torodd yr ystorm ar y wlad, daeth agerlong fawr i'r lan gerllaw Caergybi. Colli ei chwrs a wnaethai oblegid tywyllni y dymestl. Y "Missouri" ydoedd, llestr perthynol i'r Warren Line, Lerpwl. Llong fawr iawn, yn cario yn agos i 6,000 o dunelli. Y trydydd diwrnod ar ol ei dyfodiad i'r lan, aethum, yn nghwmni Mri. Owen Owens ac Uriah Williams, Pontripont, i'w gweled. Cawsom gryn drafferth i fyned i safle da i gael golwg arni. Gorweddai yn ymyl y lan, ar ei hochr. Yr oedd nifer o fân fadau o'i chwmpas, yn cael eu defnyddio gan rai ugeiniau o ddynion, i'w dadlwytho. Yr oedd cryn lawer o'i llwyth eisoes ar y glanau. Gwelais niferoedd o gyrph yr anifeiliaid a gludasai yn nofio gerllaw, eraill o honynt yma a thraw ar y traeth. Cotwm oedd llawer o'r llwyth, blawd, gwenith, afalau, cig moch, a phethau gwerthfawr eraill at wasanaeth dyn. Y fath golled aruthrol. Gresyn oedd gweled llong mor ardderchog yn y fath gyflwr! Wrth ddyfod oddiwrthi, yn nghyfeiriad Caergybi, gwelais ugeiniau o anifeiliaid a gludasai, a achubwyd rhag boddi, mewn maes gerllaw, yn edrych yn eithaf hamddenol, yn cnoi eu cil, a rhai mewn teimladau, chwareus, a'r oll yn ymddangos fel pe na fuasai dim o bwys wedi dygwydd iddynt. Ofnid fod y llong fawr yn wreck perffaith, ac nad oedd modd byth ei chael oddiyno ond yn ddarnau. Daethai i'r lan, mewn cilfach yn ngenau yr hafan yn yr hon yr arferai y mail ddyfod i mewn o'r Iwerddon ar dywydd mawr, pan yn analluog i fyned i borthladd Caergybi.
Telais ymweliad a'r eglwys Fedyddiedig yn Nghaergybi, a chefais oedfa gysurus-cynulleidfa fawr, ac yn