Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrando yn weddus. Mae yr eglwys hon y fwyaf o lawer sydd gan yr enwad yn Mon. Rhifa tua 400 o aelodau. Bu yr hybarch William Morgan, D. D., yn weinidog yma 48 o flynyddoedd, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y daeth yr achos yno i'w safle uchel bresenol. Y mae olion amlwg o'i lafur a'i ddylanwad i'w gweled ar yr eglwys a'r gynulleidfa.

Tranoeth, aethum i fonwent y capel i weled ei fedd ef, a hefyd bedd yr enwog P. A. Mon, tad y llenor adnabyddus Ap P. A. Mon. Bu farw Dr. Morgan Medi 15, 1872, yn 71 mlwydd oed. Bu farw P. A. Mon Chwef. 19, 1842, yn 52 mlwydd oed. Ar gareg ei fedd y mae yr englynion canlynol, o eiddo Cynddelw:

Yma gorwedd y mae gwron—un oedd
Yn addurn i'r Brython;
Rhyw gawr yn mhob rhagorion
Y bu y mawr B. A. Mon.

Ei orddawn oedd yn urddas-i'n cenedl,
Ein ceiniaith a'n barddas;
Hydreiddiol awdwr addas,
Llyw ei fawr gred oedd llyfr gras.

Gweinidog presenol yr eglwys hon yw y Parch. R. Thomas, brawd y Parch. Isaac Thomas, Caersalem Newydd. Y mae wedi gweinidogaethu yma er's dros bymtheng mlynedd, ac y mae efe wedi derbyn i gymundeb yr eglwys y nifer a ganlyn yn ystod ei weinidogaeth : Trwy fedydd, 253; trwy lythyrau, 210; trwy adferiad, 72; cyfanswm, 535. Gresyn na fuasai cofiant teilwng wedi ei ysgrifenu i'r hen wenidog. Deallwn fod y diffyg hwn wedi dygwydd trwy amryfusedd a chamddealltwriaeth personau yr oedd y defnyddiau ganddynt.