weyd fod Prydain fel gem-bin ar fynwes y ddaearen ; ac onid yw Gwalia fel tlws dysglaer yn yr em-bin?
Na ryfedder, gan hyny, os ceid finau a'm hanwyl deulu, yn nghyda chyfeillion mynwesol, yr ail waith yn ystod ugain o flynyddoedd, yn nesâu at ochr y llyn llydan gyda y dymuniad am fwynhau yr unrhyw fraint adlonol hon o fyned am dro i Gymru.
Credais yn gynar fod treulio "naw mis yn Nghymru" yn gofyn dwy flynedd galed o ragbarotoad. Ac felly y bu. A rhag fod neb yn camsynied am werth mwyniant yr ochr draw, dylid gofalu clorianu pwys y gwaith o ragdrefnu yr ochr hon.
Wrth gyrchu at y nôd ymweliadol, yr oedd fy symudiadau yn llawer mwy cyflym nag arfer, ac yr oedd llawer rhwystr yn cael tarawiad go chwim wrth ei symud. Ni cheid amser yn awr i ddilyn y ffasiwn Americanaidd o fyned oddiamgylch cornelau y croes-heolydd, nac i dynu cap i neb. Rheidiol oedd talfyru cyfarchiadau cyffredin, ac amneidio yn lle "clebran." Cymerid camrau esgynfeydd grisiau bob yn dri. Ymlithrwn yn rhwydd i'r dull Iancïaidd o enwi personau, gan ddweyd "Doc." yn lle Doctor, "Zor." yn lle Zorobabel, "John P." yn lle John Prichard Jones, "The." yn lle Theophilus Hughes. Eto, ni phetruswn dalfyru egwyl bwyta; anghofiwn ddilyn arferiad doeth-arafaidd Mr. Gladstone i roi deg cnoad ar hugain i bob tameidyn. Wrth gymeryd y trên, drachefn, da oedd medru dringo iddi bum' mynyd ar ol iddi gychwyn. Wrth wneyd cwrs o alwadau, cwtogwn fwy na'r haner ar y llithiau ymddyddanol. Wrth ohebu ni ellid defnyddio dim ond berfau—dim ansoddeiriau-dim enwau