Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelais y fan y collodd Iolo Mon ei fywyd. Druan o Iolo-mae y muriau a syrthiasant arno wedi eu hailgodi, ond y mae yr adfeilion y claddwyd ef ynddynt heb eu hadferyd eto.

Cefais hefyd frys-olwg ar dref Caergybi—y breakwater a gorsaf-borthladd y "London and North-Western Railway." Y mae y breakwater yn werth ei weled, yn ddiau. Yn sicr y mae John Bull yn gryn ddyn! Mae yn gallu gwneyd gorchestion iawn. Nid oes modd cerdded ar hyd y mor-fur hwn heb deimlo hyny. Dyna gadarn yw y morglawdd hwn, a dyna arian lawer a gostiodd. Pa ryfedd fod Shon Bwl y fath allu yn y byd yma! Yn nghysgod y mur hwn yr oedd un o brif longau rhyfel Prydain, yr "Hotspur," yr hon a gymerai ran yn nhânbeleniad Alexandria. Oddiamgylch iddi yr oedd amryw longau yn ymgysgodi. Edrychai yr "Hotspur" yn ddiniwed ei gwala, ond gwylied pawb rhag ei gwrthwynebu ddim. Yr oedd y llong arswydfawr hon yn y porthladd hwn er's misoedd, meddir, a'r amcan oedd gwylied y Gwyddelod! Druain o'r Gwyddelod! Mae amser gwell, er hyny, ar wawrio arnynt yn awr, yn ol pob tebygolrwydd. Y mae nifer lluosog o bobl oreu Prydain ac America yn cydymdeimlo yn fawr a hwynt.

Pan oeddwn yn Pontripont, lle tua phedair milldir o Gaergybi, galwyd fy sylw at y nifer lluosog o hen bobl sydd yn y plwyf. Yr hyn a barodd hyn i ddechreu oedd, fod dau neu dri yn y fan a'r lle o hen bobl yn cael siarad am danynt ar y pryd. Cymellwyd fi gan chwilfrydedd i wybod am nifer yr hen bobl yn yr holl blwyf, sef plwyf Rhosgolyn. Nifer poblogaeth yr holl blwyf