Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yw 350. Yr oedd y nifer a ganlyn o hen bobl yno yn mis Ionawr 1886:
Mrs. Margaret Williams | 86 | |
Mrs. Margaret Owen | 86 | |
Mrs. Ann Chambers. | 86 | |
Mrs. Sarah Griffiths. | 91 | |
Mr. Owen Roberts. | 93 | |
Mr. Richard Evans. | 92 | |
Mr. Richard Jones. | 86 | |
Miss Margaret Williams | 80 | |
Mr. Richard Williams (F'ewyrth Dic). | 80 | |
Mrs. Margaret Williams. | 78 | |
Mr. John Williams (John Rasol). | 81 | |
Mrs. Mary Jones. | 80 | |
Mr. Ellis Jones | 78 | |
Mr. William Williams. | 80 | |
Mr. Richard Williams | 78 | |
Mrs. Ann Jones. | 76 |
Ni wnaethum ddewisiad arbenig o'r plwyf hwn. Er dim a ddeallais, gall nifer yr hen bobl mewn plwyfi eraill fod yn llawn mor lluosog.
Clywais ddweyd lawer gwaith fod pobl Mon mor garedig i bregethwr a phobl Sir Benfro. Hyd ag y gwelais i, ni chefais le i amheu y dywediad. Bum yn Amlwch, hen faes yr enwog a'r hybarch ddiweddar Hugh Williams. Haeddbarchus ydoedd efe yn ei ddydd, a'i enw sydd beraroglus yn y lle ac yn y Sir. Nid oedd neb yn fwy teilwng o'i swydd nag efe yn Mon. Mae yr eglwys yn Amlwch yn parhau yn llewyrchus a lluosog. Cymhara yn dda ag unrhyw eglwys yn y lle o ran