rhif a dylanwad. Y gweinidog presenol yw y Parch E. Evans, yr hwn sydd yn llenwi ei le yn dderbyniol iawn. Symudasai yma o Dreffynon tua thair mlynedd yn flaenorol. Y mae llawer o ddelw gyfrifol-barchus yr hen weinidog gynt ar yr eglwys hon yn barhaus.
Pan oedd Hugh Williams wedi sefydlu yn Amlwch, a Christmas Evans yn llafurio yn Mon, adroddir ddarfod i gryn derfysg gyfodi yn yr eglwysi oblegid Ffwleriaeth a Chalfiniaeth. Yr oedd Christmas wedi ei wreiddio erbyn hyn mewn Calfiniaeth-Hugh Williams yn Ffwleriad proffesedig. Yr oedd gan y naill a'r llall eu dilynwyr. O'r diwedd daeth yn bur derfysglyd trwy y gwersylloedd. Yr oedd pethau yn gwisgo agwedd fygythiol. Galwyd gweinidogion o Swydd Dinbych, ac yn eu plith y Parch. Ellis Evans, Cefnmawr, i geisio cymodi y ddwy blaid. Cyfarfyddwyd yn Bodedeyrn, a llwyddwyd i ffurfio rhyw fath o gymod, canys dywedai Christmas Evans, wrth Ellis Evans, yr hwn o herwydd ei ochelgarwch, ni ddaethai yno nes oedd pob peth drosodd-" Wel Ellis, yr ydym ni wedi claddu y diawl." "Da iawn," ebe Ellis Evans, "ond gobeithio na ddarfu i chwi mo'i gladdu o yn fyw." "Hawyr bach, oes arnat ti chwant ei godi o fyny i gael gweled?""
Gerllaw Amlwch y mae Pensarn, ac aethum yno cyn dychwelyd o'r ardal. Ni welais wrandawyr mwy hwyliog yn un man yn Mon nag yno. Rhaid fod sefyllfa yr achos yn llewyrchus yno gynt, pan oedd gweithiau mynydd Paris yn myned yn dda. Y mae fod y cyfryw wedi mwy na haner sefyll wedi peri i laweroedd o bobl weithgar y parthau hyny symud ymaith i leoedd eraill. Dylanwadodd hyny yn anffafriol, yn ddiameu ar yr