arnaf, a minau yn tybied fod y testyn yn deilwng, cyfansoddais a ganlyn:
William Williams yn ei amser—oedd ddyn
Haeddianol a thyner;
Un oedd o luoedd lawer,
I'w rifo yn eiddo Nêr.
Bedyddiwr a bywyd addas,—a brawd
Ysbrydol ei urddas;
Aelod o Grist golud gras,
Gu feddodd yn gyfaddas.
Yr achos oedd yr uchaf—yn ei fryd,
A than ei fron amlaf;
Ac addoli mewn bri braf
Hir wnelai 'r gwr anwylaf.
Nid selog 'r hyd y Suliau—a rhyw oer
Ar yr ereill ddyddiau;
Yn ddiflin oedd flynyddau,
Yn bur o hyd gwnaeth barhau.
Ei waith a roes, gwnaeth ei ran—yn lewaidd
I loewi Llandegfan;
Hawliaf fi mai'r loewaf fan
Dda yno oedd ei hunan.
Y goe len dlos gangenog,—ger ei fedd,
Gar fod yn sefydlog;
Ei glod daen a i graen yn grog
I sylw rhai anselog.
Gelwais heibio i rai manau eraill yn y Sir, megys Cae'rceiliog, Rhosybol a Llangoed.
Adwaenir ynys Mon, er cyn cred a chof, wrth yr enw "Mon, mam Cymru." Dywedir mai ffrwythlonedd hynod yr ynys, rhagor parthau eraill y Dywysogaeth, a barodd iddi gael ei galw yn Fam Cymru. Cyn cyn-