Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddiad rhyfeddol y bobl yn y ganrif bresenol, cyfrifid fod Mon yn alluog i gynyrchu digonedd o rawn ac anifeiliaid i borthi holl drigolion Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth. Ffrwythlonedd rhyfeddol daear eu trigias a alluogodd drigolion yr ynys trwy yr holl oesoedd, i gadw i fyny gymeriad uchel, ar gyfrif eu haelioni i'r rhai tlodion a rheidus. Mewn cyfeiriad at y digonolrwydd yma, yn nghyda pharodrwydd y trigolion i groesawu ymwelwyr â gwleddoedd breision, y canai un o'r beirdd :

"Gor-ddu yw brig y Werddon,
Gan fwg ceginau o Fon."

Hyny yw, cymaint oedd y ceginiau yn Mon, fel y cyrchid torchau mwg y ceginau dros y mor, nes pardduo y Werddon. Moesgar gyfeiriai Goronwy Owain at olud cynhenid ei wlad hefyd pan y dywedai:

"Henffych well, Fon, diriondir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail i Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiw-ddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Nêr a dyn wyd."


PENOD XIII.

Yn Gwrando Mr. Spurgeon.

Tra yn Llundain, cefais gyfleustra i wrando Mr. Spurgeon yn pregethu yn ei Dabernacl. Nos Iau ydoedd. Trwy ragdrefniad gyda Mr. Hughes, myfyriwr