yn y coleg-Cymro o Sir Fon—cyfarfyddais ag ef yn y vestry, awr cyn i'r cwrdd mawr cyhoeddus ddechreu. Aeth a mi trwy ystafelloedd a ddefnyddir at wasanaeth y Tabernacl a'r Coleg. Dangosai i mi yr amrywiol gyfleusderau ardderchog a ddarparasid ar gyfer gwahanol angenrheidiau. Cawn achosion i ryfeddu a chanmol fel yr ymsymudwn o'r naill ystafell i'r llall. O'r diwedd deuwn i ystafell y cwrdd gweddi—ystafell fawr gyfleus iawn. Yn yr oedd cynulleidfa dda, yn gynwysedig yn benaf o aelodau yr eglwys, a Mr. Spurgeon ei hun yn arwain, yn cael ei amgylchynu gan henuriaid a diaconiaid. Offrymai efe weddi afaelgar; ymwnai a Duw i bwrpas; tynai adnoddau oddi fry. Oeddwn yn anghofio pobpeth ond efe a Duw mewn ymdrech. Dyn rhyfedd yw Mr. Spurgeon-dyn Duw ydyw-teimlwn hyny yn y cwrdd gweddi hwn. Ymneillduai efe yn y man i'w fyfyrgell, gan adael y rhan oedd yn weddill o'r cwrdd gweddi dan ofal eraill. Terfynai yr awr weddi. Yna prysurwn gyda fy nghyfaill i'r Tabernacl, er cael lle da i wrando. Llwyddais, trwy ymdrech, i sicrhau lle felly, ar fin yr oriel, heb fod yn mhell oddiwrth safle y pregethwr. Yr oeddwn yn llawn cywreinrwydd y mynydau hyn yn sylwi ar y capel, a'r bobl yn dylifo i mewn trwy bob mynedfa. Nid oedd meistr y gynulleidfa eto wedi gwneyd ei ymddangosiad, ond dysgwyliwn ef a llygaid craffus bob eiliad. O'r diwedd dyma fe yn dod o'r tu cefn i lawr y rodfa, nes cyrhaedd y pwlpud. Deuai gan arwyddo gradd o gloffni a llesgedd corphorol. Mewn ymddangosiad, yr oedd yn rhyfedd o naturiol a diymffrost. Dygai arwyddion dyn ystyriol o gyfrifoldeb mawr. Cydymdeimlwn ag ef fel y cyfryw.
Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/97
Prawfddarllenwyd y dudalen hon