Teimlwn y parch mwyaf iddo wrth gofio ei fod wedi, ac yn gwneyd gwaith mawr yn ngwinllan ei Arglwydd.
Erbyn i'r cwrdd ddechreu yr oedd y gynulleidfa yn fawr y llawr isaf a'r oriel gyntaf yn llawn. Wrth i'r pregethwr fyned rhagddo gyda y rhanau arweiniol, gallwn ddarganfod engreifftiau amlwg o elfenau ei boblogrwydd a'i ddylanwad. Hoffwn ei ddull o roddi emynau allan―y geiriau yn darawiadol, ac yntau yn eu dweyd yn darawiadol. Darllenai ac esboniai benod yn yr Ephesiaid, yn rhyfeddol o feistrolgar ac efengylaidd. Pe buasai wedi bod am ddyddiau yn parotoi, ni allesid dysgwyl iddo fod yn well-ei weddi yn tynu sylw; ymwneyd a Duw am y fendith mewn gwirionedd yr oedd efe. Tybiwn fod yr holl gynulleidfa fawr yn cydweddio ag ef. Os felly, nid rhyfedd, canys yr oedd efe yn deisyf daioni yn daer iddynt cyffyrddai a chalonau. Parotoid crindir cras i dderbyn yr had da, gan dynerwch nawseiddiol y moddion grasol hyn. Sibrydwn, yn ddiarwybod i mi fy hun, ar ei ran, "Ein Tad nefol, bydd gydag ef." Ei destyn oedd Comisiwn Crist i'w Apostolion-testyn cyfaddas, canys yn niwedd yr oedfa yr oedd pymtheg yn cael eu cydgladdu gyda Christ yn y bedydd. Parhaodd i lefaru am dri chwarter awr, yn hynod fedrus ac efengylaidd. Argraffid ar fy meddwl y syniad am dano fel cenad neillduol Duw. Nid yw efe ei hun am fod yn ddim-Duw, yr Ysbryd Glan, Iesu a phechadur sydd yn urddasoli a grymuso ei holl bregeth. "Pan yn dweyd yn anffafriol am arall,” ebai, 'byddwch ofalus rhag i chwi anghofio ei ragoriaethau, a dweyd, efallai, yn erbyn gwaith yr Ysbryd Glan ei hunan."