Yr oedd fy nghalon yn llosgi ynwyf tra yr oedd efe yn llefaru. Diweddodd yr oedfa gan fy ngadael mewn meddiant o deimladau da iawn, gan addaw y ceisiwn, trwy gymorth gras, fyw yn fwy duwiol nag erioed. Dyna yw tuedd pregethau y dyn nodedig hwn. Nid boddio cywreinrwydd deallol yw ei brif amcan, yn ddiau, ond cael dynion i adael eu pechodau, a byw yn well. Ymddengys nad yw yn colli golwg un mynyd ar hyny wrth anerch pechaduriaid a saint.
PENOD XIV.
Gohebiaeth Farddol.
Bu yr ohebiaeth farddol a ganlyn rhyngwyf a Mr. E. W. Jones, (Gwerydd Wyllt), Bethesda, Arfon, yr hwn sydd fardd a llenor rhagorol. Cyfrifir ef yn ddyn parchus yn y dref, ac efe ydyw ysgrifenydd yr eglwys. Gan fod Bethesda yn dref bwysig, a minau erioed heb fod yno, teimlwn awydd cryf i alw heibio. Pan yn y cyffiniau, anfonais air yno yn hysbysu fy mwriad i alw, a nodwn wythnos neillduol, gan adael i'r eglwys nodi noson a ddewisent. Yr atebiad a gefais oedd fod yr Annibynwyr yn cael benthyg eu capel, a bod pob noson yn llawn. Minau yn anfoddlon i'r atebiad, a ysgrifenais drachefn, gan ofyn a oedd y rhwystr yn barhaol, a rhoddais y ddau englyn canlynol yn y llythyr:
'N astud wrth lyn Bethesda—aroswn
Am rasol ddisgynfa;
Yn hollol i fy ngwella,
Mwy trwy hyn fyth o'm traha.