X.—SEC.
Ddychrynnes i fawr erioed yn fwy na'r nos Iau cyn y dwaetha. Roedd hi wedi mynd braidd yn hwyr, ac yn twllu yn o drwm, a minne'n croesi Pont y Llan. Mae ene adwy yn ochor y bont, a phren derw mawr, gwag, yn ei chanol, a gwrych coed cnau mawr bob ochor i'r ffordd wedyn. Wrth basio'r adwy a'r pren derw, rhwng twyll a gole, mi welwn rywbeth gwyn yn estyn allan o ganol y twll, ac yn gneud sŵn gwichlyd,—"Ne-ene-ene." Mi roddes neid ac i ffwrdd â mi fel y fellten. Wedi mynd heibio'r gornel, mi sefes i wrando, ac mi glywn wedyn y llais yn uwch a mwy nadlyd,—"Ne-ene-ene-edw, Ne-e-dw." Adwaenes o'n syth, a throis yn fy ol. Llais Sec oedd o. Pwy ydi Sec, fedrai ddim deyd wrthych chi, ond Eseciel Bingley ydi ei enw fo ar lyfr yr ysgol, ac y mae o'n byw efo'r hen Jinny'r Gardden, yn Nhwnt i'r Afon. Dydio fawr o beth, i ddwad o dŷ Jinny, o achos mae hi ei hun yn garpie, a'i chroen fel melyn ŵy wedi torri, a ffrïo gormod—yn grebachlyd, heblaw bod yn rhyw felyn-ddu. Un ryfedd ydi Jinny. Hi ydi'r wraig sy'n mynd allan o'r capel i boeri. Mae hi'n eistedd yng ngwaelod y capel, a reit amal, pan mae'r pregethwr yn dechre mynd i hwyl, fe gyfyd Jinny yn sydyn, ac aiff allan i boeri, ac i mewn yn ei hol i wrando, fel tase dim byd wedi digwydd.