Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"John Roberts," medde fi, "bedi 'patent'?"

"I be wyt ti'n gofyn, Nedw, ngwas i?" medde fo'n reit glên.

"Rydwi'n meddwl, os nad ydwi'n methu, mod i wedi cael patent ar slumod," medde fi.

"Mae'r Brenin Mawr wedi cael patent arnyn nhw ymhell o dy flaen di, Nedw bach," medde John Roberts, yn gwynfanus, a throdd ar ei sawdl.

Dydwi ddim yn siwr eto, felly, o'r peth; ond does dim i'w neud ond deyd wrth y bechgyn mai gen i mae'r patent, a chadw'n ddistaw ynghylch ei ystyr o. Roedd hi wedi mynd, o dipyn i beth, i mi rannu 'nghinio efo Sec, a phan fydde pawb o 'nghwmpas i ar ganol dydd, a'r farchnad yn o boeth, fe gai Sec y cinio i gyd. Bob yn dipyn roedd graen go dda yn dechre dwad ar ei wyneb, a minne'n gwerthu'r slumod am y pris ucha'n bosib,—pensel lâs, neu feipen, neu addo cnau daear, a phethe felly.

Yn sydyn un diwrnod darfu'r slumod hefyd. Methodd Sec â dwad o hyd i'r un yn unman. Wyddwn i ar y ddaear beth i'w neud, a minne wedi cael lot o faip ac addo cnau daear ar dryst, ac Wmffre a fi wedi eu bwyta nhw, neu neud lanterni maip. Ac am y feipen ges i gan Willie Ann Huws, roedd honno'n ddigon maint i neud lantar i ffitio post llidiard y Plas.

Un min nos, a minne'n cysidro dros yr amgylchiade, â 'mhwys ar wal y buarth, pwy a ddaeth heibio ond Sec.

"Ne-e-edw," medde fo, "mi-i w-w-wn i ym-ym-mhle mae sy-slumod."

"Ymhle?" medde fi.

A dene fo'n deyd ei fod wedi gweld rhai'n dwad allan y nosweth honno o seilin yr ysgol, yn ymyl y gloch. Ond sut i gael i'r seilin oedd y cwestiwn.