fy nhrowsus, nes oeddwn i'n chwys. A thuchan a chwysu roeddwn, pan ddaeth rhyw gysgod heibio imi. Mi godes fy mhen, ac mi fu bron imi ffeintio mewn gwirionedd. Pwy oedd yn sefyll uwch fy mhen, yn gwylio pob symudiad, ond Joseph. "Ho, dyma'r saldra," medde fo. Gafaelodd yn fy nghlust i, a gerfydd fy nghlust yr aeth â fi i mewn. Roedd y bechgyn erill yn ofni ac yn crynu erbyn hyn. Aeth Joseph â fi at y ddesc.
"Ffeindia dy bensel," medde fo.
"Fedrai ddim, syr," medde finne.
"Lle mae hi?" medde fynte.
"Yng ngwaelod fy mhoced i, syr," medde finne. Mae'n bwysig galw Joseph yn "syr" ar adege fel hyn.
Mi bwysleisies y "syr," er mwyn y dyfodol, fel mae nhw'n deyd. Gneud i mi dynnu'r cnau i gyd allan ddaru o, beth bynnag; ac wrth bob dyrned o gnau, roeddwn i'n cael pinsh newydd yn fy nghlust, nes fy mod i'n gweiddi, fel Jinny fy chwaer hyna, pan oedd mam yn tyllu ei chlustie hi â'r nodwydd sanne, er mwyn rhoi ear-rings nain iddi. Dydwi ddim yn fabi fel Jinny, chwaith. Er ei gwaetha wrth geisio peidio yr oedd hi'n gweiddi, am mai hi oedd eisio'r ear-rings; ond wrth fy mhwyse, wedi ystyried priodoldeb y peth, roeddwn i'n gneud.
Mi wages y cnau i gyd yn y man, ond doedd yno run bensel.
"Lle mae'r bensel?" medde Joseph. Wyddwn i ar y ddaear, o achos yn fy mhoced chwith yr oeddwn i arfer a'i chadw hi, a'r pethe gwerthfawr erill yn fy mhoced ddethe.