Ddeydodd neb air am funud, ond toc dyma lais Sec,—"A-sy-sy-sy-slum sy-syr, a-slumsyr."
Dene'r tro cynta erioed i neb glywed Sec yn yr ysgol yn ateb cwestiwn yn gywir.
"'Bat,' you mean," medde'r scŵl yn wyllt.
"N-n-o-o b-a-a-at, sy-sy-sy-slumsyr," medde Sec.
Gofynnodd y scŵl pwy ddaeth â fo. Wydde neb ddim, ond gan fod gan Sec rywbeth od bob dydd yn yr ysgol, edrychodd pawb arno fo.
"Come out," medde'r scŵl, ac aeth â fo at ei ddesc, ac mi cadwodd yno nes cael amser i'w ddyrnu, a thaflodd y slum allan.
Safodd Sec fel dur heb glepian, a gwelsom ninne na thale hi ddim iddo fo gael ei gweir am ddim byd. A gwyddem mai ei gweir gai o, o achos ni chlepie Sec ddim arnom ni.
Tarawyd ar gynllun i'w achub o. Cerddasom fel cathod ar draws y seilin at y manol arall, sy uwchben y bôrd y mae'r scŵl yn sgwenu arno. Mae hwnnw ymhell oddiwrth y ddesc lle y safe Sec. Symudwyd y caead dipyn bach o'r ffordd. Roedd Isaac y Graig wrth y bôrd yn gneud sym, a'r scŵl y tu ol iddo. Methai Isaac neud y sym yma, a'r scŵl yn dechre malu ewyn. Er mwyn ceisio tynnu sylw'r plant, dyma fi'n danglo slum yn eu golwg gerfydd ei goes, ond ni sylwai neb gan fod Isaac yn methu gneud y sym. Edrychai pawb yn fanwl ar y bôrd, gan drïo ei helpu trwy siarad rhwng eu dannedd, rhag ofn i rywun arall gael ei alw at y bôrd. Gan nad ydi'r scŵl ddim yn clywed, ryden ni wedi dysgu, i gyd, siarad yn uchel, heb symud ein dannedd na'n gwefuse. Methu gneud y sym ddaru Isaac, beth bynnag, a dene "hold out" iddo fo. Pan oedd y ffon ar fin dwad i lawr, mi blygodd Wmffre ar fy nhraws