Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI.—GWYNT Y DWYRAIN.

Fe wydde mam yn dda am wynt y dwyrain ers tro byd, o achos y fo oedd yn dwad â'i bronteitus hi, ond wydde hi fawr tan yn ddiweddar am y dwyrain ei hun, ond bod y doethion yn byw yno, a'r seren honno wedi cychwyn oddiyno. A'r unig anhawster y gweles i mam yn ei gael o'r Beibil erioed oedd paham yr oedd y doethion yn hoffi byw yn y dwyrain, a'r fan honno yn gartref i'w wynt o. A hefyd sut na fase'r Beibil yn deyd rhywbeth eu bod nhw'n diodde oddiwrth y fronteitus. O achos, medde hi, roedd yn amhosibl i bobol fyw yng nghanol gwynt y dwyrain heb y fronteitus, os oedd, pobol fel hi, mor bell o'r dwyrain, yn dioddef oddiwrtho. Cododd y mater yn yr Ysgol Sul unweth, a gofynnodd y cwestiwn i'r hen Bitar, ei hathraw, neu Pitar Isaac Roberts, fel y bydd hi yn ei alw,—mae mam yn rhoi ei enw llawn ar bawb yn wastad. Ateb Pitar Isaac oedd nad oedd bronteitus ddim wedi codi yn y cyfnod hwnnw, mai'r cyntaf yn y byd i'w gael o oedd Teitus yr apostol, y dyn y sgwennodd Paul ato, a phobol erill wedi ei gatshio oddiwrtho. Ameu'r esboniad ene braidd yr oedd nhad, ond nid oedd waeth iddo dewi. Y mae gair yr hen Bitar yn ddeddf i mam bob amser.

Doedd dim yn blino mam yn debyg i wynt y dwyrain, a'r syndod ydoedd ei bod yn dallt mai gwynt y dwyrain oedd hi pan nad oedd gwynt o