gwbwl. Mi fum i lawer gwaith yn sefyll allan nes bod wedi rhynnu, yn dal pluen i fyny yn fy llaw i edrych oedd ene wynt pan oedd mam yn y tŷ yn cwyno oddiwrth y fronteitus, ac yn beio gwynt y dwyrain, a'r bluen heb symud dim.
Pan oedden ni'n byw yn yr hen dŷ roedd mam yn gwybod yn iawn cyn i'r fronteitus ddechre ymha gyfeiriad yr oedd y dwyrain, oherwydd 'roedd hi wedi sylwi lawer gwaith mai pan chwythe'r gwynt ar draws y Foel Fawr y bydde'i brest hi'n gaeth. Doedd hi'n cymyd fawr o sylw o'r caethiwed a gai hi pan chwythe'r gwynt dros Lwyn y Brain, a hithe'n glychu ei thraed wrth ddwad o'r capel. Ac oherwydd fod ein tŷ ni yn gwynebu'n union tua'r Foel Fawr y bu raid inni ei adael. Yr oedd hynny ychydig ar ol i Huw fy mrawd fynd i Ffrainc. Y mae ein tŷ ni rwan yr ochor arall i'r Foel.
Tŷ unig ydi'r tŷ newydd, yng ngodre'r Foel, ddim ymhell o'r "Black Crow." Ac ar nosweithie twyll y gaea 'does dim i'w glywed ond y gwynt yn chwythu yn y derw yn nhop yr ardd, a'r pistyll bach sy'n ymyl y cyt moch, a sein y "Black Crow," yn cwyno wrth ysgwyd yn y gwynt. Ac am yn hir ar ol inni ddwad yno, doedd dim gwynt yn taro'r drws fel yn yr hen dŷ. A da oedd hynny, neu mi fase'r drws yn agor o hyd, oherwydd 'does dim ond darn o glicied arno fo, a honno'n agor ar ddim.
Un nosweth yn y gaea ene, doedd dim byd yn y capel, a doedd Abram y Fron ddim yn digwydd cael ffitie. Y tŷ agosa i ni ydi'r Fron, ac y mae Abram yn diodde bob mis oddiwrth ffitie. A'r adeg honno y fi sy'n gorfod rhedeg i'r Llan,—pellter o ddwy filltir,—i nol asaffeta i rwbio cledre ei